The Sport Wales website and help centre should be your first reference points. You should familiarise yourself with all the information and criteria before applying.
You can also get help from:
Local Authorities – Each local authority has officers that are responsible for sport, culture and leisure. They will be able to provide guidance if you are finding the application process difficult. If you cannot find the department you need on the council’s website, call the switchboard and ask to be put through to a sports development officer.
National Governing Bodies (NGBs) - These organisations administer and govern sport at a UK or Wales level. If you are finding any part of the application process difficult, do reach out to your NGB who can help you. A list of NGBs can be found here. https://wsa.wales/membership/membership-directory/
Wales Council for Voluntary Action (WCVA) - is the national membership body for all voluntary organisations in Wales, including sport. It has a wide range of helpful information on its website. If your organisation operates in a specific local authority area, you can also access direct support from your local County Voluntary Council (CVC). You can find a list of CVCs here. https://wcva.cymru/information-support/.
We would strongly recommend seeking help and guidance from your governing body or local authority’s sport development department.
If you still need help or have further questions you can email Sport Wales on beactive@sport.wales
Gwefan a chanolfan cymorth Chwaraeon Cymru ddylai fod y mannau cyfeirio cyntaf i chi. Dylech ddod yn gyfarwydd â’r holl wybodaeth a’r meini prawf cyn ymgeisio.
Gallwch gael help gan y canlynol hefyd:
Awdurdodau Lleol – Mae gan bob awdurdod lleol swyddogion sy’n gyfrifol am chwaraeon, diwylliant a hamdden. Byddant yn gallu darparu cyfarwyddyd os yw’r broses ymgeisio’n anodd i chi. Os nad ydych yn gallu dod o hyd i’r adran rydych ei hangen ar wefan y cyngor, ffoniwch y switsfwrdd a gofyn am siarad gyda swyddog datblygu chwaraeon.
Cyrff Rheoli Cenedlaethol (CRhC) – Mae’r sefydliadau hyn yn gweinyddu ac yn llywodraethu chwaraeon ar lefel y DU neu Gymru. Os ydych yn teimlo bod unrhyw ran o’r broses ymgeisio yn anodd, cofiwch ofyn i’ch CRhC am help. Mae rhestr o CRhC ar gael yma. https://wsa.wales/membership/membership-directory/
Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) – y corff aelodaeth cenedlaethol i bob sefydliad gwirfoddol yng Nghymru, gan gynnwys chwaraeon. Mae’n cynnwys amrywiaeth eang o wybodaeth ddefnyddiol ar ei wefan. Os yw eich sefydliad yn gweithredu mewn awdurdod lleol penodol, gallwch hefyd gael cefnogaeth uniongyrchol gan eich Cyngor Gwirfoddol Sirol lleol. Mae rhestr o’r Cynghorau hyn ar gael yma. https://wcva.cymru/information-support/.
Byddem yn argymell yn gryf eich bod yn gofyn am help a chyfarwyddyd gan eich corff rheoli neu adran datblygu chwaraeon eich awdurdod lleol.
Os oes arnoch angen help o hyd neu os oes gennych chi ragor o gwestiynau, gallwch anfon e-bost i Chwaraeon Cymru ar cymruactive@chwaraeon.cymru
Comments
0 comments
Please sign in to leave a comment.